#                                                                                      

Y Pwyllgor Deisebau | 1Mai 2018
 Petitions Committee | 1 May 2018
 
 
 ,Papur Briffio ar gyfer y Pwyllgor Deisebau  

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-811

Teitl y ddeiseb: Rhoi'r gorau i ddefnyddio ardystiad gweithwyr ar brosiectau Llywodraeth Cymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i ddefnyddio a hyrwyddo ardystiad gweithwyr ar gontractau Llywodraeth Cymru.

Mae ardystiad gweithiwr yn gynllun trwyddedu galwedigaethol wedi'i breifateiddio.

1) Mae'n annemocrataidd ac yn amharu ar egwyddorion y gyfraith gyffredin (hawliau tad-cu).

2) Mae'n rhoi cost hyfforddi a chymwysterau ar weithwyr, yn enwedig gweithwyr hunangyflogedig a gweithwyr asiantaeth sydd heb fawr o siawns o gael grantiau na chyllid.

3) Mae'n lleihau'r siawns o symud i fyny ar gyfer y tlotaf mewn cymdeithas.

4) Mae'n atal symudedd gweithwyr, ar adeg pan mae angen gweithlu hyblyg arnom.

5) Mae'n caniatáu i fuddiannau corfforaethol gael rheolaeth dros weithlu cyfan ein sectorau economaidd, gan gynyddu costau busnesau bach ac isgontractwyr.

6) Mae'n hyrwyddo ceisio rhent, sy'n golygu bod defnyddwyr yn talu mwy am gynhyrchion a gwasanaethau.

7) Mae'n lleihau cynhyrchedd.

8) Mae'n doreithiog a bydd yn ymledu i bob sector economaidd.

9) Gall greu gwrthdaro o ran buddiannau.

10) Nid oes tystiolaeth bod ardystio gweithwyr yn gwella ansawdd na safon crefftwaith.

11) Mae profiad, sgiliau a gwybodaeth yn lleihau risgiau iechyd a diogelwch, a gellir cyflawni'r rhain a'u profi heb gymwysterau.

12) Mae'n cynyddu cost prosiectau cyhoeddus.

I3) Os oes angen gofynion cymhwyster ar ddiwydiant, yna dylai ein llywodraeth a etholwyd yn ddemocrataidd greu deddfwriaeth.

 

1.       Cynlluniau ardystio gweithwyr

Un o'r cynlluniau ardystio gwaith mwyaf cyffredin yn y DU yw'r Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS). Mae cardiau CSCS yn darparu tystiolaeth bod gan unigolion sy'n gweithio ar safleoedd adeiladu yr hyfforddiant a'r cymwysterau angenrheidiol ar gyfer y math o waith y maent yn ei wneud.

Mae nifer o gardiau Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) ar gael. Yn dibynnu ar ba gerdyn sydd ei angen, efallai y bydd gofynion gwahanol o ran cymwysterau gofynnol. Mae offeryn 'darganfod cerdyn' ar wefan y cerdyn CSCS, sy'n caniatáu i bobl sefydlu pa gerdyn sy'n addas ar gyfer eu dewis gyrfa a pha gymwysterau sydd eu hangen i'w gael.

Nid yw’n ofyniad deddfwriaethol i gael cerdyn CSCS. Penderfyniad y prif gontractwr neu'r cleient yw p'un a yw'n ofynnol i weithwyr ddal cerdyn cyn iddynt gael mynediad i safle. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o brif gontractwyr a phrif adeiladwyr tai yn mynnu bod gan y gweithwyr adeiladu ar eu safleoedd gerdyn CSCS dilys.

Er mwyn cael unrhyw gerdyn CSCS rhaid i ymgeisydd gwblhau Prawf iechyd, diogelwch ac amgylchedd CITB yn gyntaf. Unwaith eto, mae profion gwahanol ar gael yn dibynnu ar lwybr gyrfa dewisol yr ymgeisydd. Mae rhagor o fanylion ar sut i ddewis y prawf cywir ar wefan CSCS, naill ai drwy ei offeryn darganfod cerdyn neu drwy fideo ar-lein.

Mae cardiau CSCS yn costio £30 ac mae prawf iechyd, diogelwch ac amgylchedd ar wahân y CITB yn costio £19.50. Mae yna sefydliadau sy'n cynnig gwasanaethau gwneud cais am gerdyn. Mae'r CITB yn argymell:

If you are being charged more than £30 for a card or £19.50 for a CITB Health, safety & environment test, check that you understand what additional services you will receive.

Penderfynir ar gost yr hyfforddiant i gefnogi pobl i basio'r prawf gan y cwmnïau hyfforddi niferus sy'n darparu hyfforddiant a bydd yn amrywio yn dibynnu ar bwy sy'n darparu'r hyfforddiant ac ym mhle yn y DU y mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno.

2.       Barn Llywodraeth Cymru

Mae llythyr Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor yn nodi ei fod

yn defnyddio Cronfa Ddata Gwybodaeth am Gymwysterau Cyflenwyr wrth ddewis cyflenwyr, sy'n gofyn cwestiwn dewisol ynghylch y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS), neu unrhyw system ardystio gyfatebol. Yn ymarferol, golyga hyn fod pob prosiect adeiladu yn cael ei asesu i benderfynu a yw natur y prosiect yn ei wneud yn ofynnol i gontractwyr gadarnhau fod gan eu gweithlu ardystiad CSCS.

Mae'r llythyr yn mynd ymlaen i nodi bod Llywodraeth Cymru ‘bob amser yn awyddus i’r dulliau caffael gael eu hadolygu’ ac y bydd ‘yn monitro datblygiad y ddeiseb’ i weld a oes unrhyw ffyrdd eraill o sicrhau diogelwch gweithwyr.

2.1        Cronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau cyflenwyr (SQuID)

Mae’r gronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau cyflenwyr (SQuID) yn offeryn sydd wedi'i gynnwys yn y Wefan Gaffael Genedlaethol, GwerthwchiGymru ac mae'n cynnwys tair elfen. Mae Cyflwyniad Llywodraeth Cymru i'r SQuID yn tynnu sylw at y ffaith bod y tair elfen yn cynnwys

Yn gyntaf, set o gwestiynau SQuID. Yn ail, cronfa ddata o atebion gan gyflenwyr sydd wedi’u storio er mwyn eu hailddefnyddio.  Yn drydydd, offeryn ar gyfer prynwyr sy’n creu holiadur ar gyfer dewis drwy ddefnyddio dull seiliedig ar risg, ar gyfer pob prosiect caffael.

Y syniad yw y bydd yr elfennau hyn yn rhoi nifer o fanteision o’u defnyddio gyda’i gilydd:

-      Mwy o effeithlonrwydd i gyflenwyr a phrynwyr, drwy allu storio cwestiynau ac atebion safonol i’w defnyddio yn y dyfodol, drwy ofyn y nifer lleiaf posibl o gwestiynau; a hefyd drwy gymell prynwyr i beidio â gofyn am wybodaeth gan gyflenwyr oni bai eu bod yn glir ynghylch sut yn union y bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio.

-      Mwy o safoni ar y cam dewis, gan roi’r gallu hefyd i addasu cwestiynau i gwrdd â’r anghenion penodol ar gyfer pob ymarfer caffael.

-      Mwy o dryloywder yn y broses dewis a’r ffordd o werthuso ymatebion - fel y bydd yn hawdd i gyflenwyr benderfynu a fyddant am gynnig am gyfle penodol neu beidio, a sut i gyflwyno’r cynnig gorau posibl mewn ffordd effeithiol.

-      Proses sy’n agored, yn deg ac yn dryloyw i bawb – fel y bydd gwell cyfleoedd gan fusnesau bach a chanolig eu maint a busnesau lleol i gystadlu ar sail gyfartal drwy gael set o gwestiynau pwrpasol a fydd yn dileu rhai o’r rhwystrau diangen sy’n eu hatal rhag cystadlu.

Pwrpas y SQuID  yw helpu prynwyr i reoli risgiau (o fethu â chyflawni prosiect) mewn ffordd gytbwys drwy ofyn cwestiynau perthnasol a chymesur.  Drwy gael contract tymor byr ar raddfa fach lle y mae'r costau a risgiau eraill o fethu’n isel, bydd llai o alw am reolaeth fanwl ac felly bydd yr ymarfer caffael yn fwy effeithlon.

Diweddarwyd y system SQuID gyfredol ar 26 Chwefror 2015, mewn ymateb i gyflwyno Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 Llywodraeth y DU.

3.       Rhagor o wybodaeth

Mae’r deisebydd wedi cyd-ysgrifennu erthygl gyhoeddedig, drwy'r Sefydliad Materion Economaidd, dan y teitl ‘Voluntary’ worker certification is occupational licencing by stealth', sy'n ymwneud â'r pryderon a godwyd yn y ddeiseb hon.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.